Yn ystod tymor brysur iawn i Theatr na nÓg, gyda nid un ond dau gynhyrchiad llwyddiannus yn perfformio i gynulleidfaoedd ar draws De Cymru, bydd y cwmni hefyd yn cynrychioli Cymru yng Nghynhadledd Theatr Ryngwladol am Wyddoniaeth yn Coimbra, Portiwgal yr wythnos nesaf.
Ynghŷd â’u partneriaid, Technocamps, bydd y ddau sefydliad yn chwifio baner Cymru yn y gynhadledd fawreddog hon ac yn rhannu eu profiad o greu model dysgu llwyddiannus sy’n rhoi profiad theatr i gynulleidfaoedd ifanc wedi’i gyfoethogi gan weithdai pwrpasol a ddarperir gan Technocamps sy’n cwmpasu theorïau a themâu gwyddonol.
Mae’r synergedd a grëwyd gan y cydweithio hwn wedi arwain at gynnig llawer gwell i’r disgyblion, ac mae wedi derbyn canmoliaeth fawr gan yr ysgolion a gymerodd ran.
Bydd cynrychiolwyr o Theatr na nÓg a Technocamps yn cyflwyno yn 2il Gynhadledd Ryngwladol, Theatr am Wyddoniaeth: Theori ac Ymarfer, a gynhelir yn Coimbra.
Mae'r cyfraniadau i’r gynhadledd amrywio o'r celfyddydau perfformio i gyfathrebu gwyddoniaeth.
Bydd Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg yng nghwmni Deborah Webster o Ysgol Gynradd Oystermouth; Faron Moller, Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe a Luke Clements, Rheolwr Gweithrediadau yn Technocamps.
Eglurodd Faron Moller "Nod Technocamps yw i ddod â phynciau digidol a STEM yn fyw i bobl ifanc. Drwy wneud yr un peth, mae cynyrchiadau Theatr na nÓg yn darparu sylfaen gwych i weithdai Technocamps, ac rydym wedi mwynhau ac elwa'n fawr o'n cydweithiad hir-dymor lwyddiannus."
Ychwanegodd Geinor Styles mai “nod y cyflwyniad yw archwilio gwerth ein cynyrchiadau theatr a gwerth datblygu a chyflwyno gweithdai pwrpasol sy’n archwilio’r wyddoniaeth sy’n gysylltiedig â’r sioe a rhoi arweiniad ac anogaeth i’r rhai a allai fod eisiau efelychu ein gwaith a’n llwyddiant mewn mannau eraill. Rydym yn ddiolchgar am y cyllid gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru sydd wedi ein cefnogi wrth gyflwyno yn y gynhadledd hon. Rwy’n credu y gall y dyfodol ansicr y mae ein pobl ifanc yn ei wynebu gael ei ddatrys wrth i artistiaid a gwyddonwyr gydweithio a chyfathrebu ffeithiau, dim ots pa mor annymunol neu anghyfforddus y mae nhw, gyda naratifau a chymeriadau atyniadol sy’n ysgogi gwell dealltwriaeth o’n byd a all ennyn empathi at eraill ac ysbrydoli newid.”
Bydd yna gyfranogwyr o Bortiwgal, Sbaen, y DU, yr Unol Daleithiau, yr Eidal, Ffrainc, yr Almaen, Brasil, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Tsiecia, y Swistir, Norwy, a Chanada; ecosffer gyfoethog o academyddion, ymarferwyr theatr a chyfathrebwyr gwyddoniaeth sydd yn perfformio, cyfathrebu a myfyrio ar wyddoniaeth trwy theatr. Byddant yn trafod amrywiaeth o safbwyntiau ar y croestoriadau theatr/perfformio a gwyddoniaeth, megis daearyddiaethau, hanesion, disgyblaethau a phynciau gwyddonol, cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, lleoliadau, fformatau, ac ymagweddau gwyddonol mewn ymarfer theatr, gan arddangos ymarfer ac ymchwil dwys yn y maes hwn.
Gallwch gael fwy o wybodaeth am y gynhadledd YMA