Mae Theatr na nÓg ac Ysgol Gyfun Cefn Saeson wedi cael pecyn gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.
Mae Theatr na nÓg ac Ysgol Gyfun Cefn Saeson wedi cael pecyn gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.
Maent yn un o’r sefydliadau ac ysgolion cyntaf yn y wlad i elwa ar gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur eleni.
Bydd Theatr na nÓg a Chefn Saeson yn creu gardd beillwyr yng nghanolfan Theatr na nÓg ar Ystad Ddiwydiannol Heol Milland. Mae’r planhigion, offer a’r deunyddiau i gyd yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Ioan Hefin, Artist Cysylltiol, yn helpu'r disgyblion o Gefn Saeson i adeiladu tai adar allan o bren.
Y llynedd, cafodd dros 500 o erddi bach ar hyd a lled Cymru eu creu, eu hadfer a’u gwella. Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint ran – o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.
Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar ein stepen drws’.
Mae cannoedd o becynnau gardd am ddim ar gael. I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/nature