Mae un o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd Theatr na nÓg yn dychwelyd i’r llwyfan yr Hydref hwn. Adrodda Ac Abertawe’n Fflam hanes teimladwy ond doniol Rosie Birch, merch ifanc sy’n symud i Abertawe fel faciwî ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd.
Gwyliwn Rosie yn tyfu’n hŷn yn ystod cyfnod y rhyfel, wrth iddi brofi’r bomio, y dogni bwyd a’r blacowts.
Unwaith eto bydd Theatr na nÓg yn cyflwyno bywydau pobl arferol yn byw mewn cyfnodau eithriadol, i’ch myfyrwyr.




I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma