Teithiwch nôl mewn amser i Oes Fictoria i gwrdd a dau wyddonydd sydd ar fin mynd ar daith i'r Amason!
Wrth iddynt adrodd eu hanes hudolus, fe gewch chi hefyd gyfle i fentro ar daith eich hunain er mwyn darganfod rhywbeth newydd a rhyfeddol! Bydd y digwyddiad byw a rhyngweithiol yma yn rhoi cyfle i blant i rannu eu profiadau gyda’u cyfoedion, a rhoi gwell dealltwriaeth iddyn nhw o’r bywyd naturiol sydd o’u hamgylch.
Unwaith yn rhagor, bydd Theatr na nÓg yn eich swyno â stori hyfryd a fydd yn hudo cynulleidfaoedd ifanc ac ysbrydoli meddyliau ifanc.
Yn ogystal â’r perfformiad, bydd yr actorion yn mynd â’r gynulleidfa ar daith allan i’r awyr agored ar alldaith!

Dyddiadau'r Sioe
AMGUEDDFA CYMRU, CAERDYDD:
D.Mawrth Gorffennaf 12, 2016 - 10.30yb a 12.30yp
D.Mercher Gorffennaf 13, 2016 - 10.30yb a 12.30yp
D.Iau Gorffennaf 14, 2016 - 10.30yb a 12.30yp
D.Sadwrn Gorffennaf 23, 2016 - 11yb, 1.30yp a 3.30yp
D.Sul Gorffennaf 24, 2016 - 11yb, 1.30yp a 3.30yp
D.Mawrth Gorffennaf 26, 2016 - 11yb, 1.30yp a 3.30yp
D.Mercher Gorffennaf 27, 2016 - 11yb, 1.30yp a 3.30yp
D.Iau Gorffennaf 28, 2016 - 11yb, 1.30yb a 3.30yp
CWT DRAMA, EISTEDDFOD GENEDLAETHOL SIR FYNWY:
D.Mawrth Awst 2, 2016 - 11yb
D.Mercher Awst 3, 2016 - 11yb
D.Gwener Awst 5, 2016 - 11yb
D.Sadwrn Awst 6, 2016 - 11yb



I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma