Ymgynghorydd Datblygu Busnes
Mae Theatr na nÓg am arallgyfeirio ei hincwm ac adeiladu gwytnwch ariannol yn ystod cyfnod o ansicrwydd i’r cwmni a’r diwydiant theatr ehangach.
Bydd yr Ymgynghorydd Datblygu Busnes yn gweithio yn llawrydd i greu astudiaeth ddichonoldeb sy’n nodi cyfleoedd ar gyfer cynyddu incwm heb effeithio ar strategaeth a gwerthoedd craidd Theatr na nÓg. Gall hyn gynnwys adolygu ein hasedau presennol yn ogystal â nodi cyfleoedd newydd ar gyfer cynhyrchu incwm. Ni fydd y rôl hon yn gyfrifol am raglennu ein hallbwn artistig.
Ariennir y rôl hon a’r astudiaeth ddichonoldeb ddilynol gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
I wneud cais am y rôl hon, cyflwynwch gynnig trwy e-bost at Rachel Fryer, Rheolwr Cyffredinol erbyn 20 Mai 2024.