Dewch ar siwrnai yn ôl i’r gorffennol, i neuaddau dawns, clybiau llafur a stiwdios recordio’r ’60au. Dyma fan geni’r chwedl o’r enw Tom Jones: bachgen o’r Cymoedd gyda llais arbennig a freuddwydiodd am gyrraedd y brig, beth bynnag fo’r pris.
Mae’r stori ysbrydoledig yma o hunan-gred a chymeriad penderfynol yn cael ei pherfformio’n fyw ar lwyfan gan gast gwych o actorion a cherddorion, i ddathlu dyn cyffredin â thalent nodweddiadol ddaeth yn arweinydd ar lwyfan y byd. Gyda chaneuon o’r cyfnod fel Ghost Riders in the Sky, Spanish Harlem a Lucille, byddwn yn dilyn Tom wrth iddo ddringo’r uchelfannau, gan orffen â rhai o’r caneuon a’i wnaeth yn un o sêr mwyaf eiconig a charismatig y cyfnod: It’s Not Unusual, Delilah, Green, Green Grass of Home, What’s New Pussycat? a mwy.
Canllaw Oed: 12+ (Dim plant o dan 2 oed).
Yn cynnwys iaith gref.
Cynhyrchiad drwy gyfrwng y Saesneg.

Teithiodd y cynhyrchiad yma i:
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 7/3/16 - 12/3/16
Festival Theatre, Caeredin 15/3/16 - 19/3/16
Curve, Caerlŷr 30/3/16 - 2/4/16
The Waterside Theatre, Aylesbury 5/4/16 - 9/4/16
The Lyceum, Sheffield 12/4/16 - 16/4/16
The Alhambra, Bradford 19/4/16 - 23/4/16
Churchill Theatre, Bromley 26/4/16 - 30/4/16
Theatre Royal, Castellnewydd Emlyn 3/5/16 - 7/5/16
Venue Cymru, Llandudno 10/5/16 - 14/5/16
Richmond Theatre, Richmond 17/5/16 - 21/5/16
The Lowry, Salford 24/5/16 - 28/5/16
The New Alexandra, Birmingham 31/5/16 - 4/6/16




I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma