Breuddwydia bachgen ifanc am ddianc realiti bywyd diflas yn Abertawe yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n ymuno â’r fyddin am y cyffro y cred y daw rhyfel, gan adael ei deulu, ei ffrindiau a’i frawd hŷn ar ôl.
Mae rhyfel yn bell o fod yn antur y meddyliodd y byddai, ac ar noson dyngedfennol yng Ngorffennaf 1916, yn ystod brwydr ofnadwy Coedwig Mametz, mae ei fywyd yn gwibio heibio ei lygaid wrth iddo orwedd wedi ei anafu mewn crater bom mwdlyd.
Mae Theatr na nÓg yn cymysgu realaeth llym o ryfel gyda eiliadau hudolus dwys gan ddefnyddio geiriau beirdd y Rhyfel Byd Cyntaf yn ogystal â cherddoriaeth wreiddiol hudol, i rannu stori ddifrodus am deulu, am gariad ac am golled.
Yn dod i Theatr Dylan Thomas yn Abertawe Hydref 2018
Drama a diwrnod cyfan o weithgareddau i goffáu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a Chan Mlynedd Pleidlais i Fenywod.
Perfformiadau drwy gyfrwng y Saesneg Medi 18 – Hydref 26, 2018
Perfformiadau drwy gyfrwng y Gymraeg Tachwedd 7-Tachwedd 16, 2018
Perfformiadau am 10am a 1pm Dydd Mawrth i Ddydd Gwener.
Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a 3
I gael flas o'r hyn y gellir disgwyl, beth am wylio video o'n cynhyrchiad a perfformiwyd yn 2014: