Breuddwydia bachgen ifanc am ddianc rhag realaeth undonog bywyd yn Abertawe yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae e’n penderfynu i gofrestru am gyffro’r rhyfel gan adael ei deulu, ei ffrindiau a’i frawd hŷn ar ei ôl.
Mae’r rhyfel yn bell o’r antur y mae’n ei ddisgwyl fodd bynnag, ac ar un noson tyngedfenol yn ystod brwydr dychrynllyd Coedwig Mametz yng Ngorffennaf 1916, rhuthra ei fywyd cyfan o flaen ei lygaid wrth iddo orwedd wedi ei anafu yn y llaid.
Mewn stori a chaiff ei adrodd yn eu ffordd unigryw eu hun, cyfuna Theatr na nÓg erchylldra ryfel gydag eiliadau hudolus dwys gan ddefnyddio geiriau beirdd y Rhyfel Byd cyntaf yn ogystal â cherddoriaeth werin i rannu stori am deulu, am gariad ac am golled.





I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma