'Dwi'n edrych mas i'r dwr, mae'n edrych yn llonydd, mae'n disgleirio ac yn pefrio, yn ddeniadol. Yna dwi'n clywed llais yn dweud:
Go on te, am be ti'n aros...?
Gad fi fod...
Wel, roeddet ti moyn neud e...'
Mewn gwirionedd, dydy e ddim eisiau neidio, ond does neb eisiau cael ei alw'n gachgi. Nid yw'n sylweddoli ar y pryd faint mae'r penderfyniad mae'n mynd i wneud yn yr eiliadau nesaf yn mynd i newid gweddill ei fywyd.
Mae 'Y Naid' yn ddarn theatr fyw arobryn, a gomisiynwyd gan Awdurdod Harbwr Caerdydd a Chelfyddydau & Busnes Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r peryglon o ymddygiad gwrthgymdeithasol a pheryglus megis neidio a nofio o amgylch ardaloedd cychod prysur.
Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd o Fai 22ain - Mehefin 8fed 2023.