Mae gwaith diweddar Ioan yn cynnwys rhannau ‘Berian’ yn “Pen Talar”, ‘James’ yn “Gwaith Cartref” a ‘Dafydd’ yn y gyfres “Teulu”. Mi fydd yn ymddangos hefyd yn y ffilm “The Darkest Day” yn ystod 2013.
Mae hefyd yn gweithio i adran celfyddydau perfformio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant lle buodd yn gyfarwyddwr ar gynhyrchiad o “Inherit the Wind” ar ddechrau ‘r flwyddyn.
Heb os, uchafbwynt diweddar ei yrfa yw’r cyfle i bortreadu’i arwr Alfred Russel Wallace gyda Theatr na nÓg. Mae’r fraint yma wedi cyfoethogi’r dair mlynedd ddiwetha’ ac wedi cychwyn ar daith sydd wedi ymestyn o’r Ardd Fotaneg yn Sir Gâr i’r Amgueddfa Genedlaethol Wyddonol yn Rio de Janeiro. Llinyn Mesur y dylanwad yma ar fywyd Ioan yw’r ffaith iddo enwi ei gi ar ôl y gwyddonydd ac erbyn hyn, mae’n mwynhai cerdded gyda ‘Alffi Wallace’ ar hyd y traeth ym Mhorth Tywyn!