Enwebwyd am y Dramodydd Gorau yn y laith Saesneg - Gwobrau Theatr Cymru 2018.
Ganwyd Meredydd Barker yn Sir Benfro i gyfansoddwraig caneuon o fam ac i grefftwr o dad. I’r mwyafrif, adnabyddir ef fel Med. Daw o hyd i ystafell gydag awyrgylch addas ac mae’n recordio ei hun yn canu ei ganeuon. Un diwrnod efallai y bydd yn chwarae hwy i bobl eraill; ac eto, efallai na fydd e.
Un o’i feilchion mwyaf yw ei swydd fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr Ieuenctid Arberth (NYT). Mae Med wedi bod yn lwcus iawn yn ei addysg ac yn yr ystod o bobl ysbrydoledig mae e wedi gweithio gyda hwy. Drwy NYT, mae e’n gallu trosglwyddo'r hyn a ddysgodd i’r rheiny sy’n berchen ar y dyfodol. Teimla’n fwy ffodus i allu dysgu oddi wrthynt hwy.
Nid yw Med yn credu mewn ysbrydion ond mae e wedi ei ddarbwyllo bod Lerpwl yn llawn ohonynt. Arferai fyw yno, ac yn Llundain am gyfnod ble wnaeth e hyfforddi fel cerflunydd , ond bellach mae e’n byw yn Arberth gyda’i wraig a’r ci Springer Spaniel. Mae ei brosiectau cyfredol yn cynnwys cyfres o sonedau cariad am laddwr cyfresol, a nofel wedi ei gosod yn ystod y Rhyfel Oer.