Bydd dau wyddonydd Fictoraidd yn cyrraedd eich ysgol gan baratoi i fynd ar eu taith i ddarganfod yr Amason anchwiliedig.

Tra eu bod yn adrodd eu hanes, caiff y plant y cyfle o fentro ar daith eu hunain a darganfod rhywbeth newydd a rhyfeddol.

Bydd y digwyddiad byw a rhyngweithiol yma o ddweud stori yn rhoi cyfle i'r plant i rannu eu profiadau gyda'u cyfoedion, a rhoi gwell dealltwriaeth iddyn nhw o'r bywyd naturiol sydd o'u hamgylch.

Unwaith yn rhagor, bydd Theatr na nÓg yn dod â stori hyfryd a fydd yn hudo cynulleidfaoedd ifanc ac a fydd yn ysbrydoli meddyliau ifanc.

Yn ogystal â'r perfformiad, bydd yr actorion yn mynd â'r gynulleidfa ar daith allan o'r ystafell ddosbarth er mwyn darganfod rhywbeth newydd.

Mae'r cynhyrchiad hon i ysgolion.

Diolch yn fawr iawn am y sioe a'r alldaith arbennig! Pawb wedi mwynhau'n fawr iawn. Actorion yn wych gyda'r plant. Gweithgareddau bywiog a diddorol oedd wedi dal sylw'r plant yn syth.
Ysgol Gynradd Gymraeg Y Ferch o'r Sgêr
Cast
Carwyn Jones
Bates
Chris Kinahan
Wallace
Sioe bywiog gweladwy iawn a wnaeth cadw sylw plant oed Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 1. Iaith yn heriol i'r plant ond ystumiau yn atgyfnerthu - er mwyn helpu dealltwriaeth. Syniad hyfryd i gynnal sesiwn chwilota tu allan - plant wedi mwynhau a chadw ar dasg.
Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan
Cynhyrchiad
Geinor Styles
Awdur
Ioan Hefin
Cyfarwyddwr
Kitty Callister
Cynllunydd
Kate Hughes
Rheolwr Llwyfan
Jak Poore
Cyfansoddwr

I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma