Mae’n haf ac mae’r ysgol wedi gorffen am y tro. Mae pump crwt yn byw eu breuddwydion a’u gofidion mewn maes chwarae lleol yng nghymoedd y de.

Mae ei gem, a elwir yn ‘broncoing’, yn chwim ac yn beryglus. Mae 'broncoing' yn arwydd o ddyndod – ac yn rhywbeth mae Bili a’i ffrindiau yn ddiamynedd yn aros amdano.

Ychydig a wyddent pa mor sydyn a chwta y daw hyn i’w rhan a hynny heb ddewis yr haf yma. Mae'r sioe glodfiw yma yn ddigwyddiad theatrig heb ei hail. Mae wyth actor yn chwarae rhan yn y ddrama bwerus hon sy’n stori o ddiniweidrwydd plentyndod a’r daith beryglus i oedolaeth.

Cast
Iestyn Arwel
Bianchi
Rhys Downing
Aled
Sion Ifan
Rhys
Gareth John Bale
Aled Hŷn
Carwyn Jones
Bili
Chris Kinahan
Jason
Osian Rhys
Jason Hŷn
Dafydd Rhys Evans
Bianchi Hŷn
Roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant ysgubol.
Lyn Jones
Cynhyrchiad
Douglas Maxwell
Awdur
Jeremi Cockram
Cyfieithiad & Addasiad
Geinor Styles
Cyfarwyddwr
Sion Coates
Cynhyrchydd Cyswllt
Sian Jenkins
Cynllunydd Gwisgoedd
Gareth Lloyd Roberts
Cynhyrchydd
Kevin McCurdy
Cyfarwyddwr Ymladd
Jak Poore
Cyfansoddwr
Emma Stevens Johnson
Hyfforddwr Llais
Lee Tinnion
Acrobateg
Phil Williams
Cyfarwyddwr Symudiad
Roedd y perfformiad yn un egniol a chymhellol iawn.
Elin Williams

I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma