Yn wreiddiol o Lanfairpwll, Ynys Mon, cafodd Carwyn ei hyfforddi yn Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall, Llundain. Mae ei waith theatr yn cynnwys 'Esther', 'Cysgod y Cryman', 'Y Gofalwr' (Theatr Genedlaethol Cymru),'Silence' (RSC Fringe), 'Bitsh!', 'Johnny Delaeny' (Cwmni Fran Wen), 'O Gam i Gam' (Arad Goch), Madog (Cwmni Mega), 'Ma Bili'n Bwrw'r Bronco' (Theatr na nÓg/Canolfan Mileniwm Cymru), 'Halibalw, Hwyliau'n Codi' (Bara Caws) a ‘Anturiaethau Anhygoel Wallace a Bates’ (Theatr na nÓg). Mae ei waith teledu yn cynnwys 'Rownd a Rownd' (Ffilmiau'r Nant), 'Judge John Deed' (BBC) a 'Blodau a Sombreros' (Cwmni Da).