Ganwyd a magwyd Lara yn St.Clears, Sir Gaerfyrddin. Aeth ymlaen i hyfforddi yn Ysgol Actio Guildford, lle mae newydd graddio. Roedd ei perfformiad proffesiynol cyntaf ychydig fisoedd yn ôl pan berfformiodd 'Daisy Pulls if Off' yn Theatr Charing Cross yn Llundain. Mae Lara yn dwli a cerddoriaeth ac wedi chwarae'r Ffidil a'r Piano ers iddi fod yn ifanc iawn ac wedi dechrau chwarae y Viola a Cello yn ddiweddar.