Ers graddio o ArtsEd gyda MA mewn actio mae Kate Elis wedi gweithio gydag amryw o gwmnïau theatr gan gynnwys Taking Flight, Butterfly Theatre a Dirty Protest. Uchafbwynt oedd gweithio gyda Chwmni Theatr Motherlode yn perfformio ‘The Good Earth’ yng Nghymru ac Efrog Newydd. Mae Kate yn mwynhau gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ac wedi chwarae amrywiaeth o gymeriadau yn y rhaglen gomedi 'Cacamwnci’ ar S4C. Mae Kate hefyd yn mwynhau gwaith lleisio i deledu a radio gan leisio hysbysebion, cartwns a dramau i’r BBC, S4C a Global Radio.