Astudiodd Geraint yn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gyda dros 15 mlynedd o brofiad, mae Geraint wedi gweithio i lawer o gwmnïau theatr (Cwmni Rhosys Cochion, Arad Goch, Wales Theatr Company, Downtown Productions, National Theatre Wales a'r Eisteddfod Genedlaethol) ac wedi teithio ledled Cymru a gweddill y DU. Daeth Geraint yn Rheolwr Cynhyrchu llawn amser Theatr na nÓg yn 2012 ac mae wedi rheoli popeth y mae'r cwmni wedi'i gynhyrchu ers hynny, gan gynnwys taith Rhif 1 y DU o TOM: A Story of Tom Jones, ac yn ddiweddar teithiau o Eye of the Storm a Nye & Jennie.