Astudiodd Frances Norburn Cynllunio ar gyfer Perfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn 2017 fe gyrhaeddodd restr fer Gwobr Linbury am ddylunio llwyfan a chyrhaeddodd rownd derfynol dylunydd dan hyfforddiant RSC yn 2018. Mae cefndir Frances mewn celf gain yn ddylanwad mawr ar ei gwaith dylunio theatr, sy'n gydbwysedd ofalus o ffurf, cyfansoddiad a lliw gyda chysyniadau cryf. Mae Frances wedi gweithio gyda Theatr y Sherman, DorchesterARTS, Boomtown Festival, Theatr y Torch a Wild Creations ymhlith eraill.