Mae Ian Barnard yn ddylunydd sain sy’n byw yng Nghaerdydd. Ar ôl bron i ddegawd o weithio ym maes peirianneg sain i gwmni Stage Sound Services, trodd ei ffocws at ddylunio sain a dysgu. Ers mis Gorffennaf 2016 mae Ian wedi bod yn ddarlithydd gwadd rheolaidd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac wedi gweithio ar gynyrchiadau ar gyfer Theatr y Sherman, Bill Kenwright, Theatr Genedlaethol Cymru, RGM Productions a Theatr na nÓg.