Yn raddedig o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, mae Ruby Gibbens yn gweithio gyda gwisgoedd, gwaith coed, mowldiau a mecanweithiau i greu pypedau wedi'u hysbrydoli gan chwedloniaeth. Mae Ruby wedi gweithio ar nifer o brosiectau ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys comisiynau ar gyfer Teatro do Montemuro, Theatre By The Lake, The Fetch Theatre a llawer mwy.