Gyda dyfodiad tymor y gwanwyn, mae holl fywyd y byd natur yn dihuno ar ôl gaeaf hir, oer a thywyll yn cynnwys ein ffrind y wenynen Bron. Ymunwch gyda hi a'i gwesteion arbennig mewn podlediad newydd sbon ar eu hantur i'r byd lliwgar y blodau gwyllt.

Gwestai cyntaf Bron yw ei hen ffrind Byrti y wenynen. Ni'n cwrdd ag ef yn gorfod gweithio'n galed iawn yng nghwch gwenyn Nant y Ddol. Byddai'n well gen Byrti dreulio'i amser yn peillio'r blodau gwyllt yng Nghoedwig Sŵn yr Awel.

Mae'n penderfynu ffoi o'r cwch gan roi ei ffrind Bron a'r holl gwch mewn perygl. Nawr yw'r amser i Byrti fod yn ddewr. Beth fydd yn digwydd nesa? Pwy yw'r Pry Cop rhyfeddol? Bydd Byrti'n llwyddo i achub ei ffrindiau? Cewch wybod hyn a mwy wrth wrando ar "Gwarchod y Gwenyn - y Podlediad”

Darperir y cynnwys yma yn rhad ac am ddim. Mae Theatr na nÓg yn elusen gofrestredig a chroesewir rhoddion er mwyn sicrhau y gallwn barhau i greu cynnwys a chynyrchiadau i bob oed eu mwynhau.

Mae ffyrdd o gyfrannu a thelerau ac amodau llawn i'w gweld yma CEFNOGWCH NI

Cast
Aled Herbert
Lara Lewis
Jack Quick
Cynhyrchiad
Katherine Chandler
Awdur
Phylip Harries
Cyfarwyddwr & Chyfieithydd
Ian Barnard
Cynllynydd Sain & Pheiriannydd Recordio
Dan Bottomley
Celfwaith
Geraint Chinnock
Rheolwr Cynhyrchu & Llwyfan
Barnaby Southgate
Cyfansoddwr & Chyfarwyddwr Cerdd
Dawn Thomas
Ymgynghoriaeth Natur
Cefnogwyr