Mae'r haf wedi cyrraedd! Dim ysgol. Dim rheolau. Mae dau ffrind yn pendefynnu herio ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithgaredd eithafol. Y gwir yw dyw'r naill na'r llall wir eisiau cymryd y naid, ond does neb eisiau cael eu cyhuddo o fod yn ofnus chwaith. Wrth i'r stori ddatblygu cawn ein cyflwyno i gymeriadau lliwgar sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â'r Bae a sut wnaeth un pendefyniad effeithio ar weddill eu bywydau.

Drama 40 munud i ysgogi'r meddwl a fydd yn cadw chi ar ymyl eich sedd.

Comisiynwyd gan Awdurdod Harbwr Caerdydd, Porthladd Aberdaugleddau a Arts & Business Cymru i godi ymwybyddiaeth o beryglon ymddygiad gwrthgymdeithasol a pheryglus megis neidio i'r dŵr a nofio o gwmpas mannau cychod prysur. Yn ogystal ag amlygu'r prif beryglon, bu'r ddrama yn addysgu pobl ifanc mewn cymorth cyntaf sylfaenol.

Dyddiadau Perfformiad - 10-Gorffennaf 14, 2017.
Roedd hwn yn berfformiad rhad ac am ddim ar gyfer ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn ardal Caerdydd.

Cast
Huw Blainey
2018
Tom Blumberg
2017
Rosey Cale
Cynhyrchiad
Geinor Styles
Awdur & Chyfarwyddwr
Geraint Chinnock
Rheolwr Cynhyrchu & Llwyfan
Luned Gwawr Evans
Cynllunydd