Bydd THE FIGHT, a gynhyrchwyd gan Theatr na nÓg, yn cael ei berfformio i gynulleidfaoedd Caerdydd am y tro cyntaf ym mis Hydref yn dilyn rhediad llwyddiannus yn Abertawe ac Aberhonddu yn 2024.

Mae The Fight yn adrodd hanes Cuthbert Taylor, pencampwr bocsio o dreftadaeth gymysg a aned ym Merthyr Tudful ym 1909, a gafodd ei wahardd rhag ymladd am deitl Prydeinig oherwydd lliw ei groen.

Yn dilyn ei rediad cyntaf yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe, a Theatr Brycheiniog yn 2024, pan welwyd y sioe gan dros 4500 o blant ysgol ac aelodau’r cyhoedd, cysylltodd Cyngor Caerdydd â Theatr na nÓg gyda’r syniad o ddod â’r ddrama i Gaerdydd. Dywedodd Alan Chappell-Williams, Prif Swyddog Cyflawniad Cwricwlwm Cyngor Caerdydd: “Roedden ni’n teimlo bod themâu’r ddrama’n cyd-fynd yn berffaith â’r neges o wrth-hilioldeb a chyfiawnder yr ydym am ei hannog yn ein hysgolion. Mae drama Theatr na nÓg yn cyfleu’r neges hon yn glir drwy stori’r bocsiwr Cuthbert Taylor o Ferthyr Tudful, ac mae ei stori’n haeddu cael ei hadrodd i genhedlaeth newydd.”

Mae The Fight yn adrodd hanes Cuthbert Taylor, arloeswr ym myd bocsio’r 1920au a’r 1930au. Ym 1928, ef oedd y bocsiwr Du cyntaf i gynrychioli Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd. Fodd bynnag roedd y sefydliad ehangach yn ofni pa neges y gallai bocsiwr Du yn trechu gwrthwynebydd gwyn ei ddanfon, felly gwaharddodd Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain focswyr nad oeddent yn wyn rhag cystadlu am deitl Prydain, gan ystyried nad oedd Taylor “yn ddigon gwyn i fod yn Brydeinig” ar y pryd. Nododd y ‘rheol bar lliw’ a oedd ar waith rhwng 1911 a 1948 fod yn rhaid i ymladdwr gael dau riant gwyn. Er gwaethaf bod yn bencampwr pwysau bantam Cymru a chynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd, ni chafodd Taylor y cyfle erioed i gael ei gydnabod fel y gorau ym Mhrydain fel y gwnaeth ei gyfoedion gwyn.

Cyfarwyddwr y cynhyrchiad yw Kev McCurdy, dewis addas ar gyfer drama o'r enw The Fight. Gyda bron i 30 mlynedd o brofiad fel cyfarwyddwr ymladd, mae McCurdy wedi hyfforddi actorion mewn ymladd llwyfan ac wedi coreograffi golygfeydd ymladdfa ar gyfer ffilmiau mawr fel John Carter gan Disney, cyfresi teledu gan gynnwys Doctor Who, Torchwood a Hinterland, a nifer o gynyrchiadau llwyfan, gan gynnwys fersiwn llwyfan y West End o Stranger Things. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar The Hunger Games: On Stage fydd yn agor ar y West End yn fuan. Mae The Fight yn nodi ei swydd gyntaf fel cyfarwyddwr gyda chwmni proffesiynol.

“Roeddwn wedi fy synnu a'm tristáu'n fawr gan stori Cuthbert a hefyd wedi fy synnu gan gyn lleied o bobl oedd wedi clywed am ei stori. Mae rhan enfawr o hanes Du Prydain wedi cael ei chuddio am ormod o amser, a nawr yw'r amser i genhedlaeth newydd ddysgu am gamgymeriadau'r gorffennol a gobeithio cywiro'r camweddau hynny.”

Fel Cuthbert Taylor, torrodd Kev McCurdy dir newydd yn ei faes fel y person du cyntaf yn y DU i ddysgu ymladd llwyfan yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ym 1992, ac yn ddiweddarach y person cyntaf o liw i ddod yn gyfarwyddwr ymladd cofrestredig cyntaf.

Mae teulu Cuthbert Taylor wedi gweithio’n agos gyda Theatr na nÓg ers sawl blwyddyn ar The Fight, gan gynnig cipolwg amhrisiadwy ar fywyd a gwaddol eu taid. Esboniodd ŵyr Cuthbert Taylor, Alun Taylor: “Cafodd ein taid Cuthbert Taylor ei wrthod o’i hawliau dynol sylfaenol, oherwydd lliw ei groen. Bron i ganrif yn ddiweddarach, mae Theatr na nÓg yn rhoi llais iddo, a thrwy wneud hynny maen nhw’n rhoi llais i’n teulu ni hefyd. Rydym yn ddiolchgar iawn bod stori Cuthbert Taylor o’r diwedd yn cael ei hadrodd, gan ganiatáu i filoedd o blant ysgol weld cymeriad a thalent anhygoel ein taid fel bocsiwr, ochr yn ochr â’r anghyfiawnderau llym yn ein byd.”

Mae teulu Taylor wedi cysylltu â Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain i ofyn am ymddiheuriad am y bar lliw a’i hataliodd rhag ymladd am deitl Prydeinig, ond nid yw eu hymdrechion erioed wedi cael ymateb. Yn dilyn rhediad y sioe yn Abertawe y llynedd, ysgrifennodd cannoedd o blant ysgol at y Bwrdd Rheoli Bocsio Prydeinig a’u Aelodau Seneddol lleol i fynnu ymddiheuriad i Cuthbert a’i deulu. Er eu bod yn cydnabod yr anghyfiawnder, nid yw’r Bwrdd na Llywodraeth y DU wedi llwyddo i ymddiheuro. Gyda’r perfformiadau newydd wedi’u trefnu yng Nghaerdydd ym mis Hydref eleni, mae’n bosibl y bydd ton newydd o ymgyrchu gan ysgolion lleol yn dilyn.

Mae tri o gast gwreiddiol y llynedd yn dychwelyd am y rhediad yn y Sherman; Simeon Desvignes, Zach Levene a Tonya Smith, gyda'r actor o Lyn-nedd, Jack Quick, yn ymuno i gwblhau'r cast. Bydd Quick yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel cymeriad rheolaidd ar yr opera sebon poblogaidd Pobol y Cwm a chyflwynydd y sioe blant Stwnsh Sadwrn.

Mae The Fight yn cael ei gynnig i bob ysgol uwchradd yng Nghaerdydd am ddim, diolch i gyllid gan Gyngor Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae lleoedd ar gael ar gyfer perfformiadau ysgol; cysylltwch â drama@theatr-nanog.co.uk am ragor o wybodaeth.

Bydd perfformiadau cyhoeddus gyda'r nos ar y 16eg, 17eg, 21ain a 22ain o Hydref. Disgrifiad Sain ar gael ar yr 21ain; capsiynau a dehongliad BSL gan Nez Parr ar yr 22ain. Tocynnau ar werth YMA neu drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 029 2064 6900.