Mae Molly yn ail-oleuydd ac yn dechnegydd sy'n gweithio'n llawrydd ledled Cymru a gweddill y DU.

Yn wreiddiol o Swydd Gaerlŷr, mae Molly bellach yn galw De Cymru yn gartref ers iddi raddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2018. Mae Molly wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau Cymreig gan gynnwys National Theatre Wales, Canolfan Mileniwm Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae ei gwaith ail-oleuo yn cynnwys: ‘Impossible!’ (National Theatre Wales), ‘What Happened to Agnes?’ (Ulita), ‘This is Not a Wedding’ (Gracefool Collective) a ‘This Really is Too Much’ (Gracefool Collective).

Mae ei gwaith technegydd yn cynnwys: Technegydd Lleoliad yn y Fringe Caeredin ar gyfer Greenside Venues, Rhaglennydd Fideo ar gyfer 'Roberto Devereux' (Opera Cenedlaethol Cymru), technegydd goleuo i 'Rhondda Rips it Up' (Opera Cenedlaethol Cymru) a Chynorthwyydd Fideo ar gyfer 'War and Peace' (Opera Cenedlaethol Cymru).