Mae Erin o Lan Ffestiniog yn wreiddiol. Graddiodd o Brifysgol Leeds ar ôl astudio ‘Theatre Design’.
Yn y gorffennol, mae Erin wedi dylunio ar gynyrchiadau yn cynnwys Y Tad, Chwalfa (Theatr Genedlaethol Cymru), Fidelio (Opra Cymru), Dilyn Fi, Dim Diolch, Swyn y Coed (Cwmni’r Fran Wen), Aberhenfelen (Bara Caws), BoHo (Theatr Clwyd a Hijinx), Nid Fi (Arad Goch), Gwydion (Cwmni Theatr Maldwyn), The Big Democray Project (National Theatre Wales), A Good Clean Heart (The Other Room), Omnibus (Kate Lawrence Dance Company), The Beggar’s Opera, Hansel and Gretel (Opera’r Ddraig), Optimism (Uncanny Theatre), The Crossing (Pointed Arrow Performances). Mae Erin hefyd wedi gweithio fel Goruchwylydd Gwisgoedd ar nifer o gynyrchiadau yn cynnwys Tylwyth, Nyrsys, Nansi, Blodeuwedd (Theatr Genedlaethol Cymru), Dick Whittington, Beauty and the Beast (Wakefield Theatre Royal) a fel Artist Gweledol ar Saer y Ser, Fi di Fi a Llwybrau Llachar (Cwmni’r Fran Wen). Hyfforddwyd yn yr Adran Gwisgoedd gyda Opera North, yn teithio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda cynyrchiadau yn cynnwys Madame Butterfly, Carousel, Ruddigore, Pinocchio a Carmen.