Magwyd Tonya yng Ngŵyr, Abertawe, ac fe hyfforddodd hi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Dros y blynyddoedd mae Tonya wedi gweithio'n helaeth yn y diwydiant fel actores, artist llais troslais, hyfforddwr actio, cyfarwyddwr, a chyfarwyddwr castio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Uchafbwyntiau theatr yn cynnwys: The Girl with the Incredibly Long Hair (We Made This), Our Country’s Good (Watermill, Newbury), The Crucible (Theatr Genedlaethol), White Feather (Theatr na nÓg), Silas Marner (Theatr Clwyd), The Three Night Blitz (Swansea Grand), The Ghost of Morfa Colleriery (Theatr na nÓg), Cancer Time (Theatre 503), and the title role of Anne Frank (New Vic, Stoke).

Uchafbwyntiau ffilm a theledu yn cynnwys: Mudtown (Severn Screen), Mammoth (BBC), Lost Boys and Fairies (Duck Soup Films/BBC), Jamie Johnson (BBC), Lolipop (Boom Plant), Emmerdale (ITV), Casualty (BBC), Y Golau (Channel 4/S4C), Consent (Firebird Pictures), Say My Name (Electric Entertainment), Wild Honey Pie (Unstoppable entertainment) a The Dark (Constantin Film).

Mae hi’n fwyaf adnabyddus yng Nghymru fel cymeriad rheolaidd Yvonne Evans yn Pobol y Cwm.

Mae Tonya yn artist gysylltiol gyda Theatr na nÓg