Hyfforddodd Llinos ym Mhrifysgol Royal Holloway Llundain ac Academi Celfyddydau Dramatig Webber Douglas.

 

Credydau Teledu a Ffilm yn cynnwys: Hamlet (BKL Productions gyda Syr Ian McKellen), Wolf (Hartswood Films), Hinterland(Hinterland Films) Bwmp, Zanzibar, Emyn Roc a Rôl (S4C), Pobol y Cwm, Stepping Up, Torchwood a Not Getting Any (BBC).

 

Mae ei gwaith theatr yn cynnwys sawl cynhyrchiad gyda Theatr na nÓg (Cymydaith Creadigol), Lighthouse Theatre (Artist Cyswllt), National Theatre Wales, Vienna’s English Theatre, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr y Sherman, King’s Head Theatre ar deithiau'r DU, Hong Kong a De America. Bu Llinos yn gweithio gyda Syr Ian McKellen ar Hamlet & The Cherry Orchard yn Theatre Royal, Windsor, dan gyfarwyddyd Sean Mathias. Bu’n chwarae rhan Mam yn nramâu Sean A Prayer for Wings a Swansea Boy, a orffenodd rhediad yn Theatr Volcano yn ddiweddar. Yr haf hwn bu Llinos yn chwarae rhan Gertrude yn Hamlet yn Theatr Gatehouse, Stafford.

 

Cyfarwyddodd Llinos sioe un dyn ar fywyd Alfred Russel Wallace a hefyd The Butterfly Hunter i Theatr na nÓg a bu’n gyfarwyddwr cynorthwyol i Geinor Styles ar Y Fenyw Mewn Du. Cyfarwyddodd y sioe gerdd newydd, Turning the Wheel a chyfarwyddodd O Little Town of Aberystwyth ar gyfer Lighthouse Theatre. Mae Llinos hefyd yn gantores ac yn delynores.