Mae Jack Quick yn actor o Dde Cymru sydd ar hyn o bryd yn chwarae rhan Rhys Llewelyn yn yr opera sebon Gymreig hirhoedlog Pobol y Cwm (S4C). Mae hefyd wedi ymddangos yn Gwaith Cartref (S4C), The Bastard Executioner (FOX), Chwarter Call (S4C), Mabinogi-ogi (S4C), Pren ar y bryn/Tree on a hill (BBC/S4C) a Cleddau/The One That Got Away (BBC/S4C).
Mae gwaith theatr Jack yn cynnwys ‘Innocent as Strawberries’ gydag Arad Goch a sawl cynhyrchiad gyda Theatr na nÓg fel ‘The Ghost of Morfa Colliery’ a ‘We Need Bees’. Theatr na nÓg yw lle dechreuodd Jack ei yrfa broffesiynol fel actor.