Beth ydy Gofalwr Ifanc?
Mae gofalwr ifanc yn blentyn neu'n berson ifanc o dan 18 oed sy'n gofalu am rywun arall ac yn cymryd cyfrifoldebau a ddisgwylir fel arfer gan oedolyn. Gall y cyfrifoldebau hyn gynnwys:
- Gwaith tŷ e.e. coginio, glanhau, siopa
- Gofalu am frodyr a chwiorydd
- Rhoi meddyginiaeth
- Cefnogaeth emosiynol
Mae gofalwr ifanc yn gofalu'n rheolaidd am riant, taid neu nain, brawd neu chwaer neu berthynas sy'n delio gyda:
- Anabledd
- Salwch hirdymor
- Iechyd meddwl
- Camddefnyddio sylweddau
Cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc
Gall cymorth edrych yn wahanol i bob gofalwr ifanc ac mae gan bob cyngor ddyletswydd i gynghori, hysbysu a darparu adnoddau.
Cymerwch olwg ar y rhestr isod a chliciwch ar ble rydych chi'n byw i weld pa gymorth sydd ar gael i Ofalwyr Ifanc yn eich ardal leol.
Os ydych chi'n ansicr pa sir rydych chi'n byw ynddi, cliciwch yma a nodwch eich cod post neu gofynnwch i athro neu oedolyn arall.