Mae bioamrywiaeth, gwarchod yr amgylchedd, cynaliadwyaeth a chadwraeth yn oll bwysig i ni yn Theatr na nÓg. Mae’r themâu yma yn codi yn ein cynyrchiadau fel Eye of the Storm, Gwarchod y Gwenyn, Heliwr Pili Pala ac You Should Ask Wallace. Rydym wastad yn edrych am ffyrdd i wella ein hôl troed carbon ac rydyn ni eisiau neud gwahaniaeth yn ein canolfan yng Nghastell-nedd. Cawsom syniad i greu ardal wyrdd drws nesaf i’n huned ar y stad ddiwydiannol a gofynnon ni i Ioan Hefin, ein Hartist Cysylltiol, i'n arwain ni. Roedd Ioan wedi chwarae rôl Alfred Russel Wallace, un o’r gwyddonwyr gorau a fu erioed, sawl gwaith yn ein dramâu! Gyda’i wybodaeth ac angerdd am natur a’r amgylchedd, roedd Ioan wedi helpu ni i ddod a’r syniad yn fwy.
Roedden ni hefyd yn gweithio gyda disgyblion o ysgol leol, Ysgol Gyfun Cefn Saeson. Roedd y disgyblion yn edrych am gyfleoedd i wirfoddoli yn y gymuned.
Cawsom becyn gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus ac roedd y planhigion, offer a’r deunyddiau i gyd wedi cael eu darparu yn rhad ac am ddim. Rydyn ni'n un o’r sefydliadau cyntaf yn y wlad i elwa ar gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur eleni. I ddarllen mwy am ein gardd gymunedol clicliwch