Mae 'Y Naid' yn ddarn theatr actio byw arobryn, a gomisiynwyd gan Awdurdod Harbwr Caerdydd i godi ymwybyddiaeth o beryglon ymddygiad gwrthgymdeithasol fel neidio a nofio mewn dyfrffyrdd heb oruchwyliaeth. Gyda hafau hir a phoeth, mae’n bwysicach nag erioed bod gan ein pobl ifanc y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud y penderfyniadau cywir.

Dywedodd 92% o athrawon fod cynhyrchiad y llynedd (2024) yn wych.

 

'Dwi'n edrych mas i'r dwr, mae'n edrych yn llonydd, mae'n disgleirio ac yn pefrio, yn ddeniadol. Yna dwi'n clywed llais yn dweud:

Go on te, am be ti'n aros...?

Gad fi fod...

Wel, roeddet ti moyn neud e...'

Mewn gwirionedd, dydy e ddim eisiau neidio, ond does neb eisiau cael ei alw'n gachgi. Nid yw'n sylweddoli ar y pryd faint mae'r penderfyniad mae'n mynd i wneud yn yr eiliadau nesaf yn mynd i newid gweddill ei fywyd.

 

Daw’r sioe hon i ysgolion am ddim diolch i gefnogaeth gan ein partneriaid Awdurdod Harbwr Caerdydd, Boskalis Westminster, a Mermaid Quay, gyda buddsoddiad CultureStep gan Gelfyddydau a Busnes Cymru.

Arts & Business Cymru 2024 awards winner logo

Our partnership with Cardiff Harbour Authority on this project won the 'Arts, Business & the Community' award at the 2024 Arts & Business Cymru awards.

Poeni am gostau bws?

Gallech wneud cais am grant gan Gronfa Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru.

Gall ysgolion wneud cais am hyd at £1,000 i dalu hyd at 90% o gostau profiad celfyddydol, a gall hyn gynnwys eich costau cludiant.

I ddarganfod mwy ac i wneud cais cliciwch yma.

Pecynnau

Ysgolion Cynradd ac Gyfun Caerdydd a'r Fro

Ar gael yn Saesneg ym Mae Caerdydd o Fai 12fed-16eg ac yn Gymraeg o Fai 19eg-23ain.

Bydd eich diwrnod yn cynnwys:

  • Perfformiad 40 munud o Y Naid yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd. (Am 10yb, 11:30yb neu 1:30yp)
  • Holi ac Ateb gyda'r actorion i drafod themâu'r sioe
  • Gweithdai diogelwch dŵr am ddim gyda’r gwasanaethau brys a drefnir gan Awdurdod Harbwr Caerdydd.

2025 cast i'w gyhoeddi

Cynhyrchiad
Daisy Williams
Cyfarwyddydd
Geinor Styles
Awdur
Ceri James
Cynllunydd Technegol
Luned Gwawr Evans
Cynllunydd
Alison Palmer
Rheolwr Cynhyrchu
Barnaby Southgate
Cyfansoddwr

Y Naid 2024

Mai 13eg - Mehefin 7fed 2024

Roedd Y Naid yn cael ei berfformio yng Nghanolfan Celfyddydau'r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd o Fai 20fed-24ain yn Saesneg ac o Fehefin 3ydd-7fed yn y Gymraeg, ochr yn ochr â gweithdai diogelwch dŵr gyda Gwasanaeth Tân Penarth. Perfformiwyd Y Naid hefyd ar gyfer ysgolion yn Torch Theatre yn Aberdaugleddau ar y 13eg o Fai.

Roedd Y Naid 2024 yn cael ei gynnig i ysgolion am ddim diolch i gefnogaeth gan ein partneriaid yn Awdurdod Harbwr Caerdydd, Boskalis Westminster, Porthladd Aberdaugleddau, a Mermaid Quay, gyda buddsoddiad CultureStep gan Gelfyddydau a Busnes Cymru.

Cast
Elwyn Williams
Jemima Nicholas
Cynhyrchiad
Geinor Styles
Awdur
Daisy Williams
Cyfarwyddydd
Ceri James
Cynllunydd Technegol
Alison Palmer
Rheolwr Cynhyrchu
Luned Gwawr Evans
Cynllunydd
Barnaby Southgate
Cyfansoddwr
Cefnogwyr