Mae cynhyrchiad Theatr na nÓg, ‘The Fight’, yn ysbrydoli plant ysgol i gystadlu am wobr dysgu creadigol er cof am ymgynghorydd ysgol lleol.

Ddoe, y 12fed o Fawrth, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, cyflwynwyd Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2024 i Ysgol Gynradd Blaenymaes. Mae’r wobr, sy’n cael ei ddyfarnu’n flynyddol, yn cydnabod y prosiect neu’r gweithgareddau creadigol a ysgogwyd gan daith i sioe Theatr na nÓg. Allan o’r naw ysgol a ymgeisiodd eleni, y nifer fwyaf o geisiadau a dderbyniwyd ers dechrau’r wobr, roedd y tair ar y rhestr fer yn bresennol yn y seremoni wobrwyo yn yr amgueddfa, a noddwyd gan y cwmni cyfrifyddu Carr Jenkins Hood. Enillodd Ysgol Gynradd Blaenymaes y wobr gyntaf, gydag Ysgol Gynradd Penyrheol yn ail ac Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas yn drydydd.

Sefydlodd Theatr na nÓg Wobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies yn 2018 ac eleni yw’r pumed tro i’r gystadleuaeth gael ei chynnal. Cyflwynwyd y wobr er cof am y cynghorydd celfyddydau, athrawes, a chyn-gadeirydd bwrdd Theatr na nÓg, Carolyn Davies. Hyrwyddodd Carolyn bwysigrwydd y celfyddydau mewn ysgolion ac iddynt fod yn ganolog i addysg pobl ifanc. Mae ei hawydd i ysgolion feithrin cysylltiadau cryf â’r cwmni theatr yn gwneud y wobr hon yn deyrnged deilwng i anrhydeddu ei hymroddiad i bobl ifanc a’r celfyddydau yn Ne Orllewin Cymru.

Dywedodd Geinor Styles, cyfarwyddydd artistig Theatr na nÓg: “Mae’r gwaith anhygoel y mae ysgolion yn ei greu yn dangos pŵer theatr nid yn unig i danio dychmygion ifanc, ond hefyd i greu newid gwirioneddol yn ein cymunedau. Mae effaith ddofn y gwaith hwn yn ein hysbrydoli i ddal ati i adrodd straeon Cymraeg fel yr ydym wedi bod yn gwneud ers 40 mlynedd, gan barhau â gweledigaeth Carolyn.”

Roedd gwobr eleni’n canolbwyntio ar gynhyrchiad ‘The Fight’, sy'n adrodd stori wir y bocsiwr Cymreig Cuthbert Taylor, o Ferthyr Tudful, a gystadlodd dros Brydain Fawr yn y Gemau Olympaidd ond a gafodd ei wahardd rhag cystadlu am deitlau Prydeinig oherwydd lliw ei groen. Treuliodd ysgolion o ledled de Cymru'r diwrnod gyda'r Cwmni yn gweld y sioe ac yn cymryd rhan mewn gweithdai yn Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Yn ogystal â gweithgareddau'r dydd, bu'r plant hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai cyfrifiadureg a ddarparwyd yn eu dosbarth gan Technocamps. Mae Theatr na nÓg hefyd yn darparu adnoddau dosbarth i athrawon ar bynciau’r sioe, gan hwyluso gwerth tymor cyfan o ddysgu trawsgwricwlaidd.

Mae effaith y sioe eisoes wedi cael sylw yn y wasg, wrth i gannoedd o ddisgyblion ysgrifennu at Fwrdd Rheoli Bocsio Prydain a chynrychiolwyr lleol i ofyn iddynt am ymddiheuriad ar ran teulu Cuthbert. Mae hyn wedi arwain at ymatebion ffurfiol gan y Llywodraeth a'r Bwrdd, er na chafwyd ymddiheuriad.

Cafodd pob ysgol a ddaeth i weld y sioe gyfle i gymryd rhan drwy gyflwyno fideo yn arddangos eu gweithgareddau creadigol, gan wreiddio’r sioe yn eu dysgu.

Dywedodd Amy Smith, dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd Blaenymaes, “As a school, we are incredibly proud of our pupils' achievements, especially being recognised and awarded first place at the Carolyn Davies Creative Learning Awards. The Fight inspired our pupils to take charge of their own learning, sparking thoughtful discussions and debates about Cuthbert's treatment in the past, while also encouraging reflection on issues that still occur today.”

Yr enillwyr blaenorol yw Ysgol Gynradd Creunant yn 2019, Ysgol Gynradd Cwmafan yn 2020, Ysgol Gynradd Blaenymaes yn 2023 ac Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas yn 2024.

Y beirniaid eleni oedd ffrind agos Carolyn Davies a’i chyn cydweithiwr Sandra Morgan; Mark Howells o Carr Jenkins Hood; Yr Athro Uzo Iwobi, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Race Council Cymru; Luke Clement o Technocamps; Yeota Imam-Rashid, sydd yn gynhyrchydd, ac yn ymddiriedolwr o Theatr na nÓg.

Wrth esbonio pam bod Carr Jenkins Hood yn parhau i noddi'r wobr, dywedodd y Cyfarwyddwr Mark Howells: “Rydym wedi bod yn falch o fod yn rhan o'r panel beirniadu a gweithio ochr yn ochr â Theatr na nÓg eto, wrth iddynt barhau i addysgu meddyliau ifanc, y tro hwn gyda'u cynhyrchiad ysbrydoledig o "The Fight". Fel busnes lleol, mae’n wirioneddol ddyhead gweld gallu, awydd ac empathi ein cenhedlaeth nesaf wrth iddynt amsugno’n llwyr yr hanes a’r stori a gyflwynir gan Theatr na nÓg.”

Mae’r ysgol fuddugol, Ysgol Gynradd Blaenymaes, yn derbyn Tlws Gwobr Carolyn Davies, gwobr ariannol o £250 a roddwyd gan noddwyr Carr Jenkins Hood, yn ogystal â diwrnod o weithdai am ddim ym Mhrifysgol Abertawe gyda Technocamps a gweithdai am ddim gyda‘r cyfarwyddwr ymladd blaenllaw a chyfarwyddwr ‘The Fight’, Kev McCurdy. Bydd yr ail safle, Ysgol Gynradd Penyrheol, yn derbyn £150, a thrydydd safle, Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, yn derbyn £100.

Dylai ysgolion sydd am gystadlu am Wobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2026 ymweld â chynhyrchiad nesaf Theatr na nÓg, Dal y Gwynt, yn yr Hydref a chyflwyno fideo yn arddangos eu gwaith creadigol. Gwybodaeth pellach i’w gyhoeddi cyn hir.