Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2025 bellach wedi mynd heibio. Diolch i'r holl ysgolion sydd wedi cyflwyno cais.

Pob blwyddyn, mae yna ddysgu hudolus yn digwydd mewn ystafelloedd dosbarth ar draws De Cymru. Mae athrawon a disgyblion uchelgeisiol yn creu prosiectau ysbrydoledig yn seiliedig ar themâu cynyrchiadau Theatr na nÓg.

Er cof am gyn Athrawes Ymgynghorol Celf a Drama'r Sir a chyn-gadeirydd bwrdd Theatr na nÓg, Carolyn Davies, hoffwn ni gydnabod yr holl ymdrechion creadigol yma a’u dathlu gyda chystadleuaeth a seremoni wobrwyo. Gwahoddir yr holl athrawon a’r disgyblion sy’n rhan o’r prosiectau ar y rhestr fer i fynychu gyda’u teuluoedd ac mae cyfle i ennill gwobrau gwych wedi cyfrannu gan ein cefnogwyr caredig.

Llongyfarchiadau i'r ysgolion fuddugol o'r gwobr fawreddog:

Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2019 - Ysgol Gynradd Creunant

Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2020 - Ysgol Gynradd Cwmafan

Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2023 - Ysgol Gynradd Blaenymaes

Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2024 - Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas

Mae Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2025 yn agored i bob ysgol gynradd a ddaeth i weld ein cynhyrchiad o The Fight yn Abertawe yn Nhymor yr Hydref.

I gofrestru, defnyddiwch y ffurflen islaw i gyflwyno disgrifiad a fideo byr am eich prosiect dosbarth a/neu’r gweithgareddau a ysbrydolwyd gan eich ymweliad. Ni ddylai'r disgrifiad fod yn fwy na 500 o eiriau, ac ni ddylai'r fideo fod yn hwy na 5 munud. Y terfyn amser yw'r 10fed o Ionawr am 5:00yp.

Sylwch, er y gallwch gyflwyno cais o ddosbarthiadau lluosog os dymunwch, mae mynychwyr y digwyddiad wedi'u cyfyngu i 60 fesul ysgol.

Bydd y Beirniaid yn sgorio prosiectau ar sail y meini prawf canlynol:

 - Mae’r prosiect yn dangos agwedd greadigol a dealltwriaeth o themâu The Fight, gydag archwiliadau a thrafodaethau trylwyr o amgylch y thema.

 - Mae'r prosiect yn dangos ffyrdd creadigol ac arloesol o weithio. Mae prosiectau wedi cysylltu’n greadigol ar draws pob un o’r Chwe Maes Dysgu a Phrofiad gan ddefnyddio’r sioe fel canolbwynt.

 - Mae’r prosiect yn dangos y plant yn arwain eu dysgu eu hunain, gan greu gwaith o ansawdd uchel. Mae'r plant wedi cael eu harwain yn dda i gymryd perchnogaeth o'u dysgu ac maent wedi ymgysylltu'n glir drwy gydol yr amser.

 - Mae’r prosiect wedi’i gyflwyno mewn ffordd ddiddorol a chreadigol, gyda mewnbwn clir gan y plant.

 

Bydd y prosiect â’r sgôr uchaf yn ennill:

- Tlws gwobrwyo i'w arddangos yn eich ysgol.

- £250 yn rhoddedig gan ein noddwyr Carr, Jenkins & Hood 

- Gwithdai am ddim gyda Kev McCurdy, Cyfarwyddwr The Fight a phrif gyfarwyddwr ymladd llwyfan y DU.

- Gweithdai am ddim gyda Technocamps.

Bydd yr ysgol 2il safle yn derbyn £150, gweithdy am ddim gydag Amgueddfeydd Cenedlaethol, a blaenoriaeth archebu gyda Technocamps. Bydd yr ysgol 3ydd safle yn derbyn £100, a blaenoriaeth archebu gyda Technocamps.

 

Gweler islaw fideo buddugol y llynedd gan Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas.

Yn sgil y pandemig, roedd rhaid i ni ganslo'r seremoni gwobrwyo ar gyfer y gystadleuaeth yn 2019. I ddathlu campau'r ysgolion ar y rhestr fer, cafodd seremoni gwobrwyo ar-lein ei greu gyda chast Heliwr Pili Pala. Gallwch chi wylio'r seremoni gwobrwyo a gweld gwaith ardderchog yr ysgol fuddugol, Ysgol Gynradd Cwmafan, islaw.

Apply