Y Sio Orau ar Gyfer Plant a Phobol Ifanc - Gwobrau Theatr Cymru 2018
Gan Geinor Styles ac Amy Wadge
ac mean partneriaeth â Technocamps
“when clouds fill up the sky and the rain falls on you…I won’t mind, at least I feel alive’
Drama gerddorol newydd yw Eye of the Storm a fydd yn eich cyffwrdd i’r byw. Drwy gyfrwng caneuon gwreiddiol gan Amy Wadge, enillydd Gwobr Grammy (Thinking Out Loud gydag Ed Sheeran), cawn ddilyn hanes Emmie. A ddylai hi ddilyn ei breuddwyd o fod yn wyddonydd neu a ddylai hi aros adref i ofalu am ei mam? Mae hi mewn penbleth llwyr. Mae ganddi gyfle unigryw i wireddu ei breuddwyd o gael mynd i astudio i America, a rhaid iddi frwydro i sicrhau ei lle ar y cwrs gwyddoniaeth drwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth STEM, gyda’i dyfais anghyffredin am egni adnewyddadwy.
Cyflwynir y stori ysbydoledig yma gan 8 o actorion sydd hefyd yn gerddorion talentog, a nhw fydd yn chwarae’r gerddoriaeth yn fyw ar y llwyfan i bob sioe.
Digwyddiad theatrig sy’n taflu goleuni ar berson ifanc dewr, penderfynol ond sydd eto’n llawn tosturi, ac sy’n sicr o swyno ac ysbrydoli pobl ifanc.
Bydd y perfformiadau hwn yn uniaith Saesneg
Cefnogir Theatr na nÓg gan Sefydliad PRS a’i gronfa Beyond Borders
Gwahoddwyd ein sioe gerdd i deuluoedd i Gwyl SPARK yn y Tai Kwun Centre for Heritage and Arts yn Hong Kong. Dyma mwy o wybodaeth am SPARK:
Denodd SPARK – y digwyddiad cyntaf o'i fath yn Hong Kong yn dathlu creadigrwydd ar draws y celfyddydau, y gwyddorau ac addysg – dros 14,000 o ymwelwyr i ganolfan treftadaeth a chelfyddydau Tai Kwun rhwng 18-20 Ionawr 2019. Trefnwyd yr ŵyl gan British Council fel man i drafod, i ganfod ysbrydoliaeth ac i feddwl yn weledigaethol. Roedd yr ŵyl yn llawn dop o brofiadau rhyngweithiol, perfformiadau pryfoclyd a sgyrsiau ysgogol.
Denodd SPARK dros 200 o artistiaid, gwyddonwyr ac academyddion o Hong Kong a’r DU ynghyd o dros 50 o sefydliadau celfyddydol ac addysg gan gyflwyno 37 o ddigwyddiadau. Y canlyniad? Platfform bywiog ar gyfer cyfnewid diwylliannol. Rhedodd rhaglen allgymorth ysgolion ochr yn ochr â’r prif ddigwyddiadau a gorau oll, roedd y cyfan AM DDIM!