Sgroliwch lawr i weld dyddiadau ac i archebu tocynnau
Mae’r sioe lwyddiannus a werthodd allan haf diwethaf yn ôl i ‘prog-rocio’r DU
Mae ‘Breaking Bad’ yn cyfuno â ‘The Good Life’ yn y ddrama anarchaidd hon gyda cherddoriaeth ‘prog-rock’ o’r 70au, wedi’i berfformio’n fyw ar lwyfan gan 9 actor-gerddorion talentog.
Dros bedwar degawd yn ôl, roedd cefn gwlad Gorllewin Cymru yng nghanol y "byst" cyffuriau mwyaf erioed. Arweiniodd ymchwiliad yr heddlu, Operation Julie, at arestio dwsinau o bobol, a darganfyddiad o gyflenwad o LSD gwerth £100 miliwn. Gwanwyn nesaf, bydd drama gerdd hynod lwyddiannus Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn dychwelyd, ac yn archwilio’r stori o'r ddwy ochr – o lygaid yr heddlu, a hefyd yr hipis a oedd wedi ymgartrefu yng Ngheredigion yn y gobaith o ledaenu eu syniadau mewn byd a oedd yn newid o'u cwmpas.
Mae’n bleser gan y cyd-gynhyrchwyr gyhoeddi bod y cast gwreiddiol yn dychwelyd ynghyd â’r tîm creadigol ar gyfer taith gyfyngedig o 6 wythnos fydd yn ymweld â theatrau ledled y wlad.