AR GYFER TAITH 2024, CLICIWCH YMA
Mae’n dod! Sioe gerdd newydd anarchaidd!
Mae Theatr na nÓg yn falch iawn i fod yn gweithio ar y cyd gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyflwyno un o’r straeon gwirioneddol anhygoel i ddod allan o Gymru erioed … OPERATION JULIE.
Mae ‘Breaking Bad’ yn gwrthdaro â ‘The Good Life’ mewn stori wir seicedelig o fryniau’r Gymru wledig.
Nid cyrch cyffuriau arferol oedd hyn. Pan ddisgynnodd aelodau o'r heddlu o bob rhan o’r wlad ar Dregaron cyn y wawr un bore ym 1977, ‘roedd rhai o'r swyddogion yn debycach i hipis a welwyd mewn gig Led Zeppelin. Ac ‘roedd y rhwydwaith LSD yr oeddent yn ei dargedu yn enfawr, ac yn anghonfensiynol. Ymysg ei brif aelodau oedd meddygon, gwyddonwyr a graddedigion prifysgol - wedi eu cymell, gan ddyhead efengylaidd i newid y byd.
Drama anarchaidd gyda cherddoriaeth o’r 70au sy’n adrodd y stori anhygoel am yr ymgyrch cuddiedig a chwalodd un o rwydweithiau cyffuriau mwyaf rhyfeddol a welodd y byd erioed.