Cwmni theatr yn defnyddio stori naturiaethwr ysbrydoledig i gryfhau eu hagenda gwyrdd
Mae’r mudiad yn ymroddedig i leihau ei ôl troed carbon, a bydd y sioe hon yn gatalydd i greu bob un o’u cynyrchiadau mor garbon niwtral â phosib. Yn ystod blwyddyn sy’n dathlu pen-blwydd mor arbennig iddo, mae’n addas bod sioe am Wallace, a ddilynodd ei gariad tuag at y byd naturiol ar siwrne i geisio deall ein lle ni mewn natur, yn ail-ysgogi’r cwmni ar ei daith werdd, oherwydd gwyddai Wallace bod cynnal a chadw’r cydbwysedd naturiol yn hanfodol i bob peth byw.
Mae’r cwmni, sydd wedi ei leoli yng Nghastell Nedd, wrth eu bodd i gydweithio gyda Chymdeithas Ddinesig Brynbuga ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Brynbuga er mwyn dathlu’r gwyddonydd Fictoraidd enwog, a aned yn Llanbadog Fawr ym 1823, ac a deithiodd y byd yn casglu ac yn cofnodi amryw rywogaethau. Ym 1854 wedi iddo gyrraedd Ynysfor Malai, darganfuwyd ganddo, yn annibynnol, egwyddorion esblygiad trwy ddetholiad naturiol ac ysgrifennodd lythyr at Charles Darwin yn trafod ei ddarganfyddiad. Ysgogodd hwn Darwin i ysgrifennu ei lyfr The Origin of the Species a newidiodd wyddoniaeth am byth. Mae’r ddrama’n rhan o ddiwrnod o weithgareddau sy’n dathlu dau gan mlwyddiant genedigaeth Wallace.
Mae’r ddrama, a ysgrifennwyd gan Geinor Styles yn 2008 ac sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi cael ei gweld gan dros 50,000 o bobl led led y byd o Gastell Nedd i Rio de Janeiro a Makassar yn Indonesia. Yr actor Ioan Hefin fydd yn portreadu Alfred Russel Wallace yn y stori wir, ysbrydoledig hon, sy’n addas i bob oedran ac eto sy’n egluro un o’r damcaniaethau mwyaf cymhleth ym maes gwyddoniaeth.
Dyfyniad gan Ioan Hefin:
“Bob tro rwy’n camu mewn i wisg Wallace, caf fy atgoffa o’r gwahanol elfennau sy’n gwneud hon yn rôl mor arbennig i’w chwarae. Mae yno ddarganfyddiadau newydd, cyson o fewn ei stori anghredadwy. Mae cael fy nylanwadu i ddadansoddi’r byd drwy lygaid a gweledigaeth Alfred Russel Wallace yn sobreiddiol ac yn fraint ysbrydoledig fel ei gilydd.”
Caiff y ddrama ei chyfarwyddo gan yr actores a’r gerddores dalentog o Gymru, Llinos Daniel.
Perfformir y cynhyrchiad dwywaith ar Ionawr yr 8fed, pen-blwydd Wallace yn 200 mlwydd oed, yn yr Ystafell Lys Fictoraidd yn Sessions House Brynbuga, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddinesig Brynbuga. Bydd y perfformiadau yn cychwyn am 3pm a 7pm.
Dyfyniad gan Gymdeithas Ddinesig Brynbuga:
Yn 2013, cafwyd syniad gan ein Cadeirydd, Tony Kear, i godi cofeb barhaol i Wallace ym Mrynbuga. Ers hynny, rydym wedi bod yn codi arian er mwyn gwireddu’r freuddwyd. Cwblhawyd y rhan gyntaf, sef penddelw efydd gan yr artist lleol Felicity Crawley, wedi ei osod ar fôn o garreg Portland Roach, yn Nhachwedd 2021 ac fe’i ddadorchuddiwyd yn Sgwâr Twyn gan Bill Bailey un o gefnogwyr mwyaf brwdfrydig Wallace; nawr, mewn pryd i ddathlu dau gan mlwyddiant genedigaeth Wallace, rydym ar fin gosod ail fôn o garreg Portland Roach ac arno banel wybodaeth sy’n rhoi hanes ei gyfraniad i ddamcaniaeth esblygiad, biodaearyddiaeth ac achosion cymdeithasol megis diwygio tir. Rydym yn hynod ddiolchgar i’n haelodau a’n cefnogwyr sydd wedi ein helpu i gasglu dros £15,000 er mwyn gallu talu am y prosiect hwn – ac i sawl unigolyn lleol a busnesau sydd wedi ein helpu ar sail pro bono. Mae Theatr na nÓg yn un o’r rhain ac rydym wrth ein bodd i weithio gyda nhw unwaith eto.
Wallace yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yn ei dref enedigol
Yn ogystal â’r perfformiadau cyhoeddus, bydd y cwmni theatr arloesol, sy’n enwog am safon uchel eu cynyrchiadau i ysgolion ac oedolion ifanc, yn perfformio i blant Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Brynbuga. Bydd gweithdai awyr agored, wedi eu harwain gan Ioan Hefin, yn tywys y bobl ifanc ar daith i ddarganfod rhywbeth newydd drostynt hwy eu hunain, yn union fel Wallace. Bydd Llinos Daniel yn arwain gweithgareddau cerddorol a seinwedd yn yr ysgol i gefnogi’r cwricwlwm creadigol newydd yng Nghymru.