Y Consortiwm Cymraeg yn cyflwyno
Y Fenyw Mewn Du
Gan Stephen Malatratt & Susan Hill
Cyfieithwyd gan Gwawr Loader
Cyfarwyddwyd gan Geinor Styles
Am y tro cyntaf, trwy gyfrwng y Gymraeg, cyfle i brofi sioe lwyddiannus o’r West End sydd wedi bod yn codi ias ar gynulleidfaoedd ers 30 mlynedd.
Hanner awr wedi naw ar Noswyl Nadolig oedd hi …
Bu cyfnod pan nad oedd Arthur Kipps yn credu mewn ysbrydion ond roedd hynny cyn iddo ymweld â Thŷ’r Gors Ddu.
Wedi cyrraedd pen ei dennyn, mae Arthur yn cyflogi actor i’w helpu i adrodd ei stori er mwyn gwaredu’r erchyllterau sy’n hunllef iddo.
Yn dilyn llwyddiant Shirley Valentine, mae’r Consortiwm Cymraeg yn dychwelyd ac yn cynnig llwyfaniad ffres o’r stori frawychus hon. Feiddiwch chi ddod i weld Y Fenyw Mewn Du?
Fe fydd perfformiadau gyda BSL gan Simon Johanson a Disgrifiad Sain gan Tonya Smith ar y dyddiadau canlynol: Hydref 27ain, Tachwedd 3ydd, Tachwedd 11eg a Tachwedd 17eg.
Fe fydd Sibrwd, ap mynediad iaith, ar gael yn y perfformiadau canlynol: Hydref 28ain, Tachwedd 2il, Tachwedd 10fed a Tachwedd 18fed.
14+
https://theatr-nanog.co.uk/cy/y-consortiwm
I archebu tocynnau sgroliwch i lawr
Am Sesiynnau Hel Straeon, adnoddau i ysgolion a cholegau a dysgwyr sgroliwch i lawr
I Ddysgwyr Cymraeg
Sesiynau Adrodd Straeon
Ydych chi'n ddysgwr Cymraeg neu'n rhywun sydd eisiau magu hyder i ddefnyddio’ch Gymraeg mewn ffordd greadigol a hwyliog?
Mae Cymru yn wlad llawn chwedlau a straeon. Mae gan bob pentref a bro stori ysbryd, a phob tref stori am y Tylwyth Teg.
Oes gennych chi stori am brofiadau arswydus y mae'n rhaid i chi ei rhannu?
I gyd-fynd â pherfformiadau’r Consortiwm Cymraeg o'r sioe theatr Y Fenyw Mewn Du, bydd Owen Staton, storïwr proffesiynol yn eich helpu i adrodd eich hanes ac i rannu eich stori yn Gymraeg.
Byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio eich Cymraeg drwy ddysgu i adrodd y chwedlau hyn yn draddodiadol, yn union fel y chwedleuwyr gynt. Bydd y sesiwn hefyd yn gyfle i ddysgu am straeon a chwedlau newydd o'ch ardal leol.
Mae croeso i siaradwyr Cymraeg o bob lefel, a bydd pawb yn cael eu cefnogi i ddefnyddio’r iaith cymaint ag y dymunant.
Dewch i rannu eich straeon gyda ni. Byddai'r Fenyw mewn Du wrth ei bodd yn eu clywed.
I archebu lle cliciwch y linc priodol
Theatr Soar, Merthyr Tudful - Dydd Llun 6-7pm
https://www.theatrsoar.cymru
Hydref 9fed
Hydref 16eg
Neuadd Les, Ystradgynlais - Dydd Mercher 7pm
https://thewelfare.co.uk/workshops-activities-2
Hydref 18fed
Tachwedd 1af
Tachwedd 8fed
I Ysgolion a Cholegau
Drama
CBAC - TGAU
Bydd y cynhyrchiad yn cefnogi ac yn ehangu dealltwriaeth disgyblion yn arbennig Adran B yr arholiad ysgrifenedig.
Edexcel
Bydd y cynhyrchiad yn cefnogi ac ehangu dealltwriaeth disgyblion yn arbennig Uned 2 Archwilio Testunau Drama
Profiad o theatr fyw fel aelod o’r gynulleidfa
Yn ogystal â'r sioe bydd gan ddisgyblion yr opsiwn o
Gweithdy cyn sioe yn yr ysgol
Sesiwn Holi ac Ateb ar ôl y sioe gyda chast, cyfarwyddwr, yn yr ysgol neu yn y theatr
Mae adnoddau digidol yn amlygu elfennau technegol a dylunio'r cynhyrchiad
Cymraeg Ail Iaith Lefel A/AS
Bydd y cynhyrchiad yn cefnogi ac ehangu dealltwriaeth y disgyblion yn arbennig U2 Uned 4 Drama a Llafaredd – Trafod drama
Yn ogystal â'r sioe
Bydd sesiwn Holi ac Ateb ar ôl y sioe gyda chast, cyfarwyddwr, yn yr ysgol neu yn y theatr
Dysgwyr Cymraeg
Yn ogystal â’r sioe bydd adnoddau’n cefnogi ac yn ehangu dealltwriaeth dysgwyr ar lefel Ganolradd.
Crynodeb a Geirfa ar gael wrth brynu tocyn
Sesiwn cyn y berfformiad i gyflwyno crynodeb o’r sioe a geirfa
Sesiwn Holi ac Ateb ar ôl y sioe gyda chast, cyfieithydd a chyfarwyddwr