Mae Alison yn falch iawn o fod yn Gydymaith i Theatr na nÓg ar ôl gweithio gyda Geinor ar amrywiol brosiectau er 1998 fel Rheolwr Llwyfan. Mae Alison wedi mwynhau gyrfa amrywiol, a hynny yng Nghymru yn bennaf, sydd wedi cynnwys ysgrifennu newydd, sioeau cerdd, Shakespeare a phrosiectau safle-benodol. Roedd hi'n rhan o'r tîm rheoli llwyfan arobryn a hwylusodd City Of The Unexpected a oedd yn dathlu genedigaeth Roald Dahl yng Nghaerdydd ar gyfer NTW. Mae Alison yn arbennig o falch o'i rolau ar Eye of the Storm a gallu gweithio ar y cynhyrchiad Cymraeg Can Pegi ar gyfer Theatr na nÓg. Yn ddiweddar bu Alison yn oruchwyliwr rheoli llwyfan yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle hyfforddodd hi.