Yn wreiddiol o Brighton, mae Debbie bellach yn gweithio yn Ysgol Gynradd Ystumllwynarth, y Mwmbwls fel athrawes Blwyddyn 1 a Chydlynydd y Cyfnod Sylfaen. Mae wedi dysgu ar draws y dosbarthiadau cynradd ac mae'n credu bod plant yn dysgu orau drwy brofi'r byd o'u cwmpas yn uniongyrchol. Yn hynny o beth, mae hi'n hoff iawn o ddefnyddio cynyrchiadau Theatr na nOg fel sylfaen ar gyfer pwnc tymhorol, gan ganiatáu i blant ddefnyddio'r cynhyrchiad i adeiladu gwaith llythrennedd a dyniaethau dychmygus. Gyda'i dosbarth Blwyddyn 6 bu'n rhan o'r gwaith o adeiladu'r app TNN a datblygu adnoddau i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth sy'n cyd-fynd â phob cynhyrchiad. Cyn ei gyrfa addysgu, roedd Debbie yn rheolwr ar gyfer Partneriaeth John Lewis ym Mryste. Mae hi wrth ei bodd yn yr awyr agored, ac yn hoff o dyfu ei ffrwythau a'i llysiau ei hun, nofio a chanŵio yn y môr a mynd am droeon hir ar hyd llwybrau'r arfordir.