Mae Theatr na nÓg ac Ysgol Gyfun Cefn Saeson wedi cael pecyn gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus. 
 

Mae Theatr na nÓg ac Ysgol Gyfun Cefn Saeson wedi cael pecyn gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus. 


Maent yn un o’r sefydliadau ac ysgolion cyntaf yn y wlad i elwa ar gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur eleni. 
Bydd Theatr na nÓg a Chefn Saeson yn creu gardd beillwyr yng nghanolfan Theatr na nÓg ar Ystad Ddiwydiannol Heol Milland.  Mae’r planhigion, offer a’r deunyddiau i gyd yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim gan Cadwch Gymru’n Daclus. 

O safbwynt personol, y byd natur yw’r byd sy’n cynnig lloches ac egni i fi wrth geisio digymod da byd dynol. Pan ddaeth cyfle i gyd-weithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus a Theatr na nÓg, mi ddaeth cyfle hefyd i ddechrau sgwrs a stori newydd. Mae pob sgwrs yn gychwynbwynt. Mae sgwrs sy’n trochi dwylo wrth drafod pridd yn siwr o fod yn sgwrs buddiol ac adeiladol.
Ioan Hefin, Artist Cysylltiol Theatr na nÓg
A man with glasses, a green top and blue jeans helps a boy with a grey hoodie and black trousers to create a bird box out of wood

Ioan Hefin, Artist Cysylltiol, yn helpu'r disgyblion o Gefn Saeson i adeiladu tai adar allan o bren. 

Mae'r ardd wedi bod yn gyfle gwych i'n pobl ifanc gymryd rhan mewn prosiect yn eu cymuned. Dyw ein pobl ifanc ddim fel arfer yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau fel hyn ac mae'r staff yn Theatr na nÓg wedi bod yn rhagorol wrth edrych ar ein hôl ni. O'r dechrau roedd y staff yn wych gyda'n pobl ifanc ac yn cynnig llawer o gyfleoedd dysgu iddynt. Roeddent hefyd yn gallu cwblhau tasgau ymarferol na fyddent fel arfer yn cael y cyfle i wneud. Mae'r ardd yn edrych yn wych ac mae'n dangos wrth ystyried y cyfleoedd cywir, gall pobl ifanc fod yn rhan o'u cymunedau a chael ymdeimlad o gyflawniad. Diolch eto i staff Theatr na nÓg a Chadwch Gymru’n Daclus am y cyfle.
Rhys Hearne, Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid

Y llynedd, cafodd dros 500 o erddi bach ar hyd a lled Cymru eu creu, eu hadfer a’u gwella.  Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint ran – o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.

Yn ystod y deuddeg mis, mae mwy o bobl nag erioed wedi dod i werthfawrogi gwerth natur ar eu stepen drws. Ond mae’n rhaid gweithredu ar frys i wrthdroi ei ddirywiad. Rydym wrth ein bodd bod Theatr na nÓg a Chefn Saeson wedi cael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy Leoedd Lleol ar gyfer Natur. Ein gobaith yw y bydd cymunedau eraill yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan.
Louise Tambini, Cadwch Gymru’n Daclus

Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar ein stepen drws’.


Mae cannoedd o becynnau gardd am ddim ar gael.  I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/nature