Yn 1988 treuliodd yr haf yn dysgu drama yng Nghaliffornia, ac yna aeth i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i ddilyn cwrs rheoli llwyfan. Graddiodd yn 1991 a bu'n gweithio gyda Dalier Sylw cyn ymuno â Theatr Gorllewin Morgannwg (sydd bellach yn Theatr na nÓg) fel eu rheolydd llwyfan preswyl.

Yn 1996 cafodd y cyfle i gyfarwyddo Spam Man yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala i Dalier Sylw.

Daeth yn gyfarwyddyd artistig i Theatr na nÓg yn 1998, ac ers hynny mae wedi cyfarwyddo dros ddeg ar hugain o gynyrchiadau ar gyfer y cwmni - o Cyrano i Cider gyda Rosie, o sioe am wyddonydd esblygiadol i sioe gerdd am ganwr poblogaidd o’r cymoedd.

Mae Geinor wedi ysgrifennu 13 o ddramâu ac maen nhw’n cael eu perfformio o Bracla i Brasil.

Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr Eric, a'u meibion Elliot a Gabriel.

Mae hi wrth ei bodd â Morecambe and Wise.