Wedi ei eni a'i fagu yn Nhreforys ger Abertawe, mynychodd Ceri Ysgol Gynradd y Lon Las ac yna Ysgol Uwchradd Gwyr. Wedi gorffen ei addysg, aeth yn syth i fyd actio gan ymddangos yn y comedi Coming of Age ar BBC 3. Aeth ymlaen i ymddangos ar Casualty, hefyd ar y BBC, ac yna Dau Dy a Ni (S4C). Mae e hefyd wedi ymddangos mewn drama lwyfan Whose Coat is That Jacket - gyda chwmni Ffrapetsus.
Dyma fydd y tro cyntaf i Ceri weithio gyda ni.