Mae Jack yn 20 mlwydd oed, ac yn byw gyda'i rieni ym mhentre hyfryd Glyn-nedd. Mynychodd Ysgol Gymraeg Glyn-nedd ac yna aeth ymlaen i Ysgol Gyfun Ystalyfera hyd at Lefel A. Yna, aeth i Goleg Gorseinon i astudio cwrs actio am flwyddyn cyn cael ei swydd gyntaf yn actio'n broffesiynol gyda ni yma yn Theatr na nÓg gan gymryd rhan yn y sioe i ysgolion sef 'Gwobr y Gwenyn Gweithgar.' Fe wnaeth e hefyd gymryd rhan yn y ddrama 'Ysbryd y Pwll' yn yr Hydref.