Daw Aled o Ystradgynlais yng Nghwm Tawe. Derbyniodd radd mewn 'Theatr' yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae e wedi teithio'n helaeth o amgylch y Deyrnas Unedig ac Iwerddon gyda sawl cwmni theatr, gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Sherman Cymru ac mewn amryw o sioeau gyda Theatr na nÓg . Hefyd ‘Big Bad Wolf’, ‘Me a Giant’, ‘Ysbryd y Pwll’ a ‘Y Gelyn Cudd’ gyda'r cwmni yma. Ymddangosodd yn ddiweddar ar S4C ar ‘Alys’ ac fe wnaeth ennill gwobr gan y ' Royal Television Society' am y ffilm ‘Mourning of the Valley.’ Edrycha ymlaen at deithio eto gyda Theatr na nÓg gyda 'Gwobr y Gwenyn Gweithgar' o amgylch Prydain Fawr ac mae e am ddiolch i bob un ohonoch am ddod i weld y sioe.