Mae Rosey Cale yn actores ac yn gantores/gyfansoddwraig canu gwlad a phop o Sir Benfro, De Cymru.

Cafodd Rosey ei hyfforddi ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn fuan wedi hynny, rhyddhaodd ei EP gyntaf, ‘Creating Images’. Mae ei cherddoriaeth wedi ei ysbrydoli gan ganu gwlad ond mae ei gynhyrchiad cyfoes a’i ddylanwadau pop yn apelio at ffans Taylor Swift, Sara Bareilles a Kelsea Ballerini.

Wedi iddi actio’n broffesiynol am y tro cyntaf yng nghynhyrchiad Theatr na nÓg, Just Jump (2017 a 2018,) chwaraeodd Rosie y brif ran, Ernie yn y sioe gerdd lwyddiannus, Eye Of The Storm.