Yr enillydd Grammy Amy Wadge yn un o gyfansoddwyr caneuon cyfoes mwyaf toreithiog y DU. Mae llwyddiant mwyaf nodedig Amy hyd yn hyn o ganlyniad i'w phartneriaeth ysgrifennu hirsefydlog gydag Ed Sheeran. Cân Amy ac Ed, Thinking Out Loud, oedd y drydedd sengl oddi ar ail albwm Sheeran, a enwebwyd teirgwaith am Grammy, sef X (Multiply). Aeth i Rhif 1 yn Siart y DU ym mis Tachwedd 2014 ar ôl treulio 19 wythnos yn y 40 uchaf, gan dorri'r record ar gyfer y daith hiraf erioed i'r brig. Yn agosach at adref, mae Amy wedi ennill yr Artist Benywaidd Gorau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Cymru ddwywaith, y tro cyntaf wrth drechu Charlotte Church a'r ail ar y blaen i Cerys Matthews. Yn fwy diweddar mae hi wedi hudo cynulleidfaoedd teledu gyda'i thrac sain swynol ar gyfer drama'r BBC, Un Bore Mercher.