Mae Tonya yn un o gymdeithion creadigol Theatr na nÓg ac mi roedd hi'n ddiolchgar iawn i gael y cyfle i weithio ar prosiect mor ddiddorol a chreadigol ag 'Anturiaethau'r Adfent' yn ystod y clolawr. Roedd Tonya wedi helpu i greu'r stori ac ysgrifennu'r darnau ar gyfer y corachod felly mae ganddi teimlad cynnes iawn tuag atynt. Mae Tonya wedi gweithio'n helaeth o gwmpas y DU a Chymru fach mewn theatr a teledu ac mae hi wedi mwynhau gweithio ar sioeau Theatr na nÓg yn fawr - yn enwedig Y Bluen Wen ac Ysbryd y Pwll. Mae Tonya wedi bod yn lwcus i weithio ar ochr arall y bwrdd fel cyfarwyddwr i na nÓg ac yn gobethio i barhau gyda'r gwaith yna yn y dyfodol. Diolch mawr a cwtsh oddi wrth Cadi x