Cafodd Dion ei eni a magwyd yng Nghaerdydd ond nawr yn byw yn Llandeilo gyda'i wraig Ifana a'i fab Daniel.
Dechreuodd actio fel plentyn a chafodd ei gastio yn rhaglen ITV 'Snow Spider' yn 1988 pan odd yn 13 mlwydd oed.
Dechreuodd Dion ei yrfa broffesiynnol fel actor ar ôl iddo raddio o Goleg y Drindod Dewi Sant yn 1997 gyda BA mewn Theatr, Cyfryngau a Cherddoriaeth. Dilynodd hyn drwy gyflawni diploma mewn Actio yn 2001.

Mae Dion wedi gweithio gyda amrywiaeth o gwmniau theatr a theledu ers 1997. Mae'n wyneb adnabyddus yng ngwaith na nÓg ers ei berfformiad gyntaf yn y ddrama 'Halt! Who Goes There?' yn 2004 ac wedi mwynhau datblygu gwahanol cymeriadau dros y 15 mlynedd diwethaf.

Mae rhai o gredydau ffilm a theledu Dion yn cynnwys: Solomon and Gaenor; Petroleum Spirit; Under Milk Wood; Torchwood and Indian Doctor (both BBC); Stella (SKY 1); Y Pris, Tair Chwaer, Amdani, Y Glas, Rownd a Rownd, Pethau Bychain, Hyd Y Pwrs (all S4C).
Efallai bydd gwylwyr ifancach yn ei adnabod o: Jen a Jim Pob Dim; Cymylau Bychain; Y Doniolis; Ditectifs Hanes; P’nawn Da Bawb (all S4C).

Mae ei gredydau theatr yn cynnwys: Halt! Who Goes There!?; Kapow; Me a Giant, Aesop’s Fables; and Arandora Star (Theatr na nÓg); A Child’s Christmas in Wales; A Christmas Carol and Servant of Two Masters (Wales Theatr Company); Hefyd, mae Dion wedi gweithio ar nifer o pantos gyda Dafydd Hywel (Cwmni Mega); Mae'n wine gyfarwydd yn Theatr Torch, am ei fod wedi chwarae'r rhan 'Dame' ym mhanto'r Nadolig ers 2010; Pinocchio, One Flew Over the Cuckoo’s Nest and One Man, Two Guv’nors, twice (Theatr Torch).

Mae ganddo brofiad o sgrifennu i blant, yn cynnwys rhaglennu teledu, sgetch a gyda amrywiaeth o ddrama i radio a gwaith trosleisio.

Am ei fod yn cael ei gydnabod fel actor cyswllt yn Theatr na nÓg a The Torch Theatre, mae Dion yn falch ei bod wedi cael y cyfle i berfformio i'r amrwyiaeth o gynulleidfaoedd.

Yn ogystal â bod yn theatr, mae Dion hefyd yn gefnogwr brwd o ffilmiau a chwaraeon yn enwedig o bêl-droed. Ei hoff dîm yw Lerpwl FC.... YNWA!