Mae Tom yn Actor Cymraeg ei iaith sydd ar fin symud i fyw yn Toronto am gyfnod. Graddiodd o Mountview yn Llundain yn 2010. Gweithiodd yn gyntaf i Theatr na nÓg yn 2013 ar ‘Preparing to be hired’. Ers hynny mae Tom wedi gweithio ar 'Anturiaethau Anghygoel Wallace a Bates' ac 'Y Naid' i'r cwmni, yn ogystal â nifer o brosiectau ar-lein a phrosiectau ymchwil a datblygiad.
Mae ei waith Theatr arall yn cynnwys The Ugly Duckling / Yr Hwyaden Fach Hyll (Theatr Sherman), 2023 (Illumine Theatre / Chapter Arts), Slip Stones a La Ou Volent Les Feuilles (Arad Goch), Mimosa a Somewhere in England (Clwyd Theatr Cymru), The Big City (The Cockpit Theatre).


Mae ei gredydau teledu yn cynnwys Rownd a Rownd, Merched Parchus, JAM a BEXTRA (S4C), Will (TNT), American Monster (Discovery Channel) Doctors a Casualty (BBC).


Mae Tom wedi bod yn ysgrifennu ar gyfer rhaglen teledu ar S4C yn ddiweddar gyda syniadau eraill yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Mae e'n falch iawn i fod yn gyfarwyddo am y tro cyntaf ar Y NAID gyda'r cwmni arbennig yma - sioe sy'n gyfarwydd iawn iddo. Mae'n edrych ymlaen yn fawr hefyd at fod yn rhan o 'Y Fenyw Mewn Du' gyda'r cwmni fel actor yn yr Hydref.